Rhif y ddeiseb: P-06-1256

Teitl y ddeiseb: Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa

Testun y ddeiseb: Gyda’r digwyddiadau diweddar yn Affganistan a Mark Drakeford yn ein hatgoffa ni i gyd fod Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn Genedl Noddfa, rydym wir o’r farn y dylai hwn fod yn benderfyniad sy’n cael ei wneud gan bobl Cymru. Rydym yn teimlo, gan mai pobl Cymru fydd yn ariannu hyn yn rhannol trwy drethi, mae gennym hawl i benderfynu ai dyma’r penderfyniad iawn i Gymry. Dylid cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa.

Yn ddiweddar, dywedodd Mark Drakeford ar Twitter "Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy'n gadael Affganistan".

Mae llawer o sylwadau wedi’u gwneud am sut nad oes gan Gymru'r cyfleusterau na'r seilwaith ariannol i dderbyn pobl o bob cwr o'r byd a rhoi cartref iddynt. Fel y soniwyd, mae gennym ein problemau digartrefedd, cyffuriau/alcohol ac argyfwng iechyd meddwl ein hunain, ac ar ben hynny, mae'r economi'n chwalu oherwydd Covid. Mae’n deg dweud na allwn gefnogi mwy o bobl tra bod gennym ein problemau ein hunain i’r fath raddau. Am y rhesymau hyn, rydym yn galw am gynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa. Ni ddylai'r penderfyniad hwn erioed fod wedi cael ei wneud heb unrhyw bleidlais gan y cyhoedd. Ni etholwyd unrhyw un ar faniffesto nac addewid i wneud hyn.

 

 


1.        Cefndir

1.1.            Cyfrifoldebau rhyngwladol

Mae gan y DU gyfrifoldebau cyfreithiol rhyngwladol i ddiogelu ffoaduriaid. Ochr yn ochr â 148 o wledydd eraill, mae'r DU yn rhan o Gonfensiwn Ffoaduriaid 1951, sef cytundeb byd-eang a oruchwylir gan y Cenhedloedd Unedig. Prif egwyddor y Confensiwn Ffoaduriaid yw 'non-refoulement', sef na ddylai ffoaduriaid orfod dychwelyd i wlad lle mae bygythiad difrifol i'w bywydau neu eu rhyddid.

Mae’r DU hefyd yn rhan o gytuniadau eraill sy’n diogelu ffoaduriaid, fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

O dan y setliad datganoli, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'r rhwymedigaethau hyn. Yn 2019, dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai 'Cenedl Noddfa' gyntaf y byd. Mae’r cynllun yn esbonio sut y bydd yn sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol a chafodd ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig .

1.2.          Diffiniadau

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adsefydlu 20,000 o ffoaduriaid Affganistan yn y DU. Mae Confensiwn Ffoaduriaid 1951 yn disgrifio ffoadur fel a ganlyn:

person sydd y tu allan i'w wlad ei genedligrwydd/chenedligrwydd neu breswylfa arferol; mae ganddo/ganddi ofn ar sail dda o erledigaeth oherwydd ei hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol neu farn wleidyddol; ac yn methu neu'n anfodlon manteisio ar amddiffyniad y wlad honno, neu ddychwelyd yno, oherwydd ei bod/fod yn ofni erledigaeth.

Mae hyn yn wahanol i'r diffiniad o geisiwr lloches. Mae ffoaduriaid eraill o Affganistan yn debygol o gyrraedd y DU o’u gwirfodd a hawlio lloches. Dyma’r diffiniad o geisiwr lloches: 

person sydd wedi croesi ffin ryngwladol i chwilio am amddiffyniad, ond nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch ei gais/chais am statws ffoadur, hyd yn hyn. Mae ceisiwr lloches, felly, yn rhywun sydd wedi cyrraedd gwlad ac wedi gofyn am loches. Hyd nes ceir penderfyniad ynghylch a ydyw’n ffoadur ai peidio, caiff ei alw’n geisiwr lloches.

Yn y DU, nid oes gan geiswyr lloches yr un hawliauâ ffoaduriaid neu ddinasyddion Prydeinig. Er enghraifft, ni chaniateir i bobl sy'n ceisio lloches weithio na hawlio budd-daliadau.

1.3.          Cefnogaeth Llywodraeth y DU i geiswyr lloches

Mae Llywodraeth y DU yn darparu tai a chefnogaeth ariannol i geiswyr lloches a hefyd yn caniatáu iddynt ddefnyddio gwasanaethau os ydynt yn bodloni’r gofynion cymhwysedd (sef eu bod yn ddigartref neu nid oes ganddynt arian i brynu bwyd). Os caiff cais am loches ei wrthod, gall person fod yn gymwys i gael cymorth tymor byr o dan adran 4(2) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Darperir llety i geiswyr lloches ond ni chânt ddewis ble yn y DU y byddant yn byw. Bydd ceiswyr lloches sy'n cael cymorth yn cael eu rhoi mewn llety dros dro a reolir gan ddarparwyr ar ran y Swyddfa Gartref.

Mae'r DU yn gweithredu tri chynllun adsefydlu: Cynllun Adsefydlu'r DU (UKRS), Cynllun Nawdd Cymunedol, a Chynllun Adsefydlu Mandadol. Mae llwybrau eraill yn cynnwys aduniad teuluol.

Ym mis Medi 2021, cyhoeddoddLlywodraeth y DU ddau gynllun adsefydlu i’r rhai sy’n ffoi o Affganistan.

§  Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid.  Mae ARAP, neu’r 'Ymgyrch Croeso Cynnes', yn berthnasol i Affganiaid sydd wedi gweithio'n agos gyda byddin Prydain a Llywodraeth y DU yn Afghanistan.

§  Maee Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan yn berthnasol i ddinasyddion Afghanistan yr ystyrir eu bod yn wynebu'r perygl mwyaf o ran colli eu hawliau dynol a chael eu trin gan y Taliban mewn modd sy’n eu dad-ddyneiddio, gan gynnwys merched o bob oed.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymateb i’r argyfwng dyngarol yn Wcráin ac mae wedi cyhoeddi Llwybr nawdd dyngarol:  Mae Aelodau o’r Senedd o bob plaid wleidyddol  wedi datgan cefnogaeth gref  i gynnig noddfa yng Nghymru i’r rhai sy’n ffoi o Wcráin.

1.4.          Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau  yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf 2021. Mae gan y Bil dri amcan:

§  Cynnig system decach i sicrhau bod y rhai y mae angen lloches arnynt yn cael eu diogelu a’u cynorthwyo’n well;

§  Atal pobl rhag dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon, gan gael gwared ar y model busnes sy’n creu rhwydweithiau smyglo pobl ac amddiffyn bywydau'r rhai y mae’r model hwn yn eu peryglu;

§  Ei gwneud yn haws symud pobl o’r DU os nad oes ganddynt hawl i fod yn y wlad.

Mae'r Bil wedi’i beirniadu gan lawer. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) yn rhybuddio bod y Bil yn tanseilio Confensiwn Ffoaduriaid 1951, y cytundeb sydd wedi amddiffyn ffoaduriaid ers degawdau ac y mae'r DU wedi’i lofnodi.

Pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi yn erbyn nifer o gymalau, gan gynnwys Cymal 11 a fyddai wedi creu system dwy haen yn seiliedig ar y llwybr mynediad i’r DU. Cynhelir trydydd darlleniad o’r Bil cyn y bydd yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Mae’r Senedd wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad i'r 'Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol'  ar y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau a gafodd ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2022.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae mewnfudo yn fater a gadwyd yn ôl ac felly ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y broses o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth eang o bolisïau sy’n helpu ymfudwyr i integreiddio gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyflogaeth ac mae’n gyfrifol am reoli effeithiau ymfudo a sicrhau bod cymunedau’n gydlynol.

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai 'Cenedl Noddfa' gyntaf y byd., a hynny fel ymateb i ymchwiliad  gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd yn 2017.

Mae asesiad effaith a gynhaliodd Llywodraeth Cymru yn  crynhoi sut y mae’r polisi: yn ceisio dymchwel rhwystrau i geiswyr lloches ddefnyddio gwasanaethau, gwella cymorth cyflogadwyedd i ffoaduriaid, gwella integreiddio a gwybodaeth am hawliau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a lliniaru amddifadedd, salwch meddwl a digartrefedd.

At hynny, roedd y cynllun yn gyfle i Lywodraeth Cymru roi ei safbwynt ar drefniadau datganoli, o gofio bod lloches a mewnfudo’n faterion a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU:

Llywodraeth y DU, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am loches a mewnfudo. O ganlyniad, ni allwn reoli rhai o’r dylanwadau allweddol ar gyfer atal canlyniadau niweidiol, fel gwneud penderfyniadau prydlon a da ynghylch achosion lloches, sicrhau llety o ansawdd da a chynnig cymorth cyfreithiol.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn integreiddio’n llwyddiannus, bydd rhaid cael ymdrech gytûn ar ran Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cymdeithasol Cymru a chymunedau Cymru.

Mewn gohebiaeth â’r Pwyllgor Deisebau ar 11 Chwefror 2022, esboniodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod Cynllun Cenedl Noddfa wedi’i ddatblygu drwy “ymgynghoriad agored dros gyfnod o dri mis ” pan glywyd gan bobl a oedd yn ceisio noddfa, gwasanaethau cyhoeddus ac roedd hefyd yn agored i'r cyhoedd. Cyfeiriodd y Gweinidog at y crynodeb o'r ymatebion a dywedodd eu bod dangos cefnogaeth sylweddol i’r cynigion drafft ar gyfer creu Cenedl Noddfa.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.